Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 6 Tachwedd 2017
Amser:
13.00 -
16.02
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4352
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC Angela Burns AC (yn lle Mohammad Asghar (Oscar) AC) |
Tystion: |
Nick Capaldi, Cyngor Celfyddydau Cymru David Michael, Llyfrgell Genedlaethol Cymru Rhodri Glyn Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru Linda Tomos, Llyfrgell Genedlaethol Cymru Gwyn Williams, Cyngor Celfyddydau Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Anthony Barrett Matthew Mortlock |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) David Millett (Ymchwilydd) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar AC – dirprwyodd Angela Burns AC ar ei ran. Ymddiheurodd Neil Hamilton AC ac Adam Price AC hefyd.
1.3 Datganodd Lee Waters AC fuddiant fel Aelod o Bwyllgor Archif Gwleidyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Bu'r Aelodau yn craffu ar waith Nick Capaldi, Prif Weithredwr a Gwyn Williams, Cyfarwyddwr Cyllid Cyngor Celfyddydau Cymru ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17.
3.2 Cytunodd Nick Capaldi i anfon:
· rhagor o wybodaeth am swm y gyllideb a ddyrennir ar gyfer prosiectau sydd wedi'u targedu'n benodol i NEETS mewn ardaloedd difreintiedig, nifer y prosiectau a'r flaenoriaeth a roddir iddynt gan Gyngor y Celfyddydau;
· dadansoddiad manwl o gronfeydd wrth gefn Cyngor Celfyddydau Cymru; a
· nifer y sefydliadau a nodwyd yn rhai ‘risg coch’ yn y portffolio.
3.1 Bu Aelodau yn craffu ar waith Linda Tomas, Llyfrgellydd Cenedlaethol; Rhodri Glyn Thomas, Llywydd a David Michael, Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Gofynnodd y Cadeirydd i'r Clercod baratoi adroddiad er mwyn i'r Aelodau ei ystyried.